Ymweliad Y Norwyaid

Chwefror 2001

Fe drawodd y clwy Traed a’r Gennau, a rhoddwyd stop ar unrhyw weithgareddau cymdeithasol. Canslwyd yr Wyl Fai, a phob gwahoddiad i ddawnsio am weddill y Gwanwyn.

Awst 2001

Erbyn Awst 2001 roedd y gwaharddiadau wedi’u codi, a gan na chawsom fawr o gyfle i ddawnsio na dathlu yn ystod hanner cynta’r flwyddyn penderfynnwyd bwrw ati i drefnu wythnos gyfan o weithgareddau ddiwedd Awst i ddathlu’n 21ain penblwydd. Estynwyd gwahoddiad i’n cyfeillion o Norwy – Sotra Folkedanslag, ynghyd â’r grwp offerynnol Asalaten i ymuno yn y dathliadau.

grwpnorwy.jpg (128535 bytes)

Dydd Sadwrn – Yn anffodus doedd y tywydd ddim o’n plaid bore Sadwrn, ond ymdrechwyd i ddawnsio rhwng cawodydd ym Melin Llynon

Dydd Sul – Llanberis oedd ein cyrchfan dydd Sul. Dawnsiwyd y tu allan i’n Mynydd Gwefru, ac ar ôl picnic ar lan y llyn cafwyd gwledd o ddawnsio yn yr Amgueddfa Lechi. Gorffennwyd y pnawn gydag ymweliad â’r pwerdy yng nghrombil y mynydd.

dmpadarn.jpg (83672 bytes)                                             norwypadarn.jpg (90017 bytes)

Dydd Llun – Ar yr agenda dydd Llun roedd dawnsio ym Mhlas Newydd, a gyda’r nos Cyngerdd Rhyngwladol yn Oriel Môn, Llangefni.

dalyfaner.jpg (65038 bytes)

Dydd Mawrth – Bore Mawrth cychwynnodd 38 o Norwyaid yn nwylo diogel 3 o Fôn drosodd i’r Iwerddon i gwrdd â’n cefndryd Celtaidd. Yn ôl pob son cafwyd amser gwych, yn ymweld â’r amgueddfa offerynnau gwerin, teithio o amgylch Dulyn ar y bws agored, ac yn blasu’r ‘stwff du’.

Dydd Mercher – dychwelodd criw eitha blinedig o Ddulyn, ond ar ôl swper magodd tua hanner y criw ddigon o nerth i gael twmpath i lawr ar gampws y brifysgol, ac roedd yn gyfle gwych i ddysgu dawnsfeydd ein gilydd.


Dydd Iau – Ar ddiwedd amserlen mor brysur roedd dydd Iau yn ddiwrnod rhydd i bob teulu ddiddanu’u hymwelwyr fel y myno. Aeth y mwyafrif am dro i dref hynfaol Conwy, gan ymweld â Plas Mawr, y ty lleiaf ym Mhrydain, y castell, a siopau antiqes. Gyda’r nos cynhaliwyd y barbeciw ffarwel yn Bronant, gyda digon o gyfle i ddawnsio a chymdeithasu.

Dydd Gwener – Yn anffodus daeth y diwrnod ffarwelio yn rhy sydyn o lawer, ond ffarwelio am y tro oeddan ni, nid ffarwelio am byth, gan edrych ymlaen at gyfarfod ein ffrindiau oes o Norwy yn fuan.

plantbws.jpg (45505 bytes)