Dathlu 21ain Yn Llangollen
Ionawr 2001
I gychwyn ein blwyddyn o ddathlu penblwydd Dawnswyr Môn yn 21ain oed, ac i ddathlur un pryd yr hen galan Cymraeg, aeth criw or aelodau au teuluoedd am benwythnos ir hostel ieuenctid yn Llangollen. Doedd dim dawnsio ar yr agenda, dim ond cymdeithasu, mwynhau a dathlu! Y bwriad o fynd i Llangollen oedd cael rhywle digon pell o adref i deimlon bod ar ein gwyliau, ond yn ddigon agos ir aelodau deithio yno ar ôl gwaith nos Wener. Roedd yn arbrawf llwyddiannus!
Nos Wener ar ôl i pawb gyrraedd a chael pryd o fwyd gwyliwyd tapiau fideo on teithiau tramor dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Aeth un neu ddau or aelodau ati i ddangos pa mor amryddawn yda ni fel tîm. Dyma Guton dangos nad ydi o ofn uchder, ai fod mor llwglyd ei fod yn gorfod bwyta gwê pry cop!
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod braf ond oer iawn. Cerddodd y mwyafrif i fyny i Castell Dinas Bran uwchben Llangollen, ac ar ôl cinio ail-grewyd y frwydr rhwng Madog ap Gruffudd Maelor a byddin Edward 1af.
Gydar nos aeth Mair ati i wneud cyflath y traddodiad ar nos calan, a doedd dim prinder pobol i helpu tynnur taffi melyn iw gael yn barod iw fwyta. I gloir noson cawsom gemau amrywiol sut i ddringo dros frwsh llawr, sut i godi bocs matches oddi ar y llawr heb gyffwrdd y llawr efor dwylo ayb maen gwbl angenrheidiol bod yn hyblyg er mwyn bod yn aelod o dîm dawnsio!
Wrth droi am adra bore Sul roedd hin amlwg fod pawb wedi mwynhau