Gwisgoedd

Mae gwisg y tîm yn portreadu’r dillad a wisgwyd gan yn werin bobol yng nghefn gwlad Nghymru tua diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif. Seiliwyd dillad y merched ar wisg o’r cyfnod sydd bellach yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Mae ambell aelod yn gwisgo ddilledyn gwreiddiol sydd wedi’i basio i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth, ond mae mwyafrif y gwisgoedd wedi’u gwneud â llaw yn y dull traddodiadol gan aelodau’r tîm. Ar gyfer y dilladau allannol defnyddir brethyn gwlân Cymreig sydd wedi’i nyddu yn y ffordd draddodiadol mewn melin yn Drefach Felindre, a defnyddir cotwm gwyn ar gyfer y dilladau isaf.

Mae gwisg y merched yn cynnwys pantalwns a fest gotwm (neu undarn fel y gwelir yn y llun), pais gotwm, sannau brethyn, sgert frethyn, barclod brethyn, betgwn frethyn, fischu a llewys cotwm, bonet cotwm, shawl frethyn neu gotwm, a’r het "draddodiadol" Gymreig. Mae gwisg y dynion yn cynnwys sannau gwlân, trowsus penglin, crys cotwm a gwasgod frethyn.

gwisgblaen.jpg (47431 bytes)

O'r Tu Blaen

gwisgcefn.jpg (41768 bytes)

O'r Cefn

dilladisaf.jpg (24642 bytes)

O Danodd!

Roedd gwisgoedd y cyfnod hwn yng Nghymru yn amrywio mewn lliw o ardal i ardal - glas, brown, gwyrdd yn ddibynnol ar pa ddefnyddiau naturiol oedd ar gael i liwio’r gwlân. Penderfynnwyd ar y lliwiau coch, du a gwyn fel y prif liwiau ar gyfer gwisgoedd Dawnswyr Môn - y lliw coch gan ei fod yn liw traddodiadol mewn ardaloedd glan môr, y du a’r gwyn yn lliwiau naturiol oedd yn gyffredin iawn mewn gwisgoedd yng Ngogledd Cymru - cynefin y Ddafad Fynydd Ddu Gymreig. Defnyddid yr edafedd du yn bennaf ar gyfer sannau gan na fyddai’n colli ei liw wrth gael ei olchi.

Er fod ei tharddiad yn niwlog mae’r het dal ddu bellach yn rhan nodweddiadol o’r wisg "draddodiadol" Gymreig. Mae hetiau Dawnswyr Môn i gyd wedi’u gwneud â llaw gan un o aelodau’r tîm, yn seiliedig ar hetiau traddodiadol o ddechrau’r 19eg ganrif.

Yn ôl yr hen lawysgrifau y drefn wrth ddawnsio dawnsfeydd ffair oedd i ddiosg y wisg frethyn, a dawnsio yn y dillad isa gwynion wedi’u haddurno â rhubannau o bob lliw.

grwp1.jpg (50131 bytes)

wedimeddwi1.jpg (21601 bytes)

dilwynmeddwl.jpg (28382 bytes)

islwynmwd.jpg (47373 bytes)

Sylwadau? Ebostiwch sylwadau@dawnswyrmon.org